Adroddiad Blynyddol 2015 a Datganiad Ariannol
Y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyflyrau Niwrolegol
Nodau ac Amcanion
Nod
I wella gwasanaethau ar gyfer pobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau niwrolegol
Amcanion
1. I ymgysylltu â phobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau niwrolegol a gweithio mewn partneriaeth â hwy.
2. Codi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrolegol a’u heffaith ar unigolion a’u cymunedau.
3. I roi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru am anghenion pobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau niwrolegol, ac i ddylanwadu arni.
4. I gefnogi a hyrwyddo ymchwil briodol
Aelodaeth a Chyfarfodydd y grŵp:
Bydd y Grŵp yn cynnwys Aelodau Cynulliad o dair o leiaf o’r pleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, a chynrychiolwyr o Bwyllgor Gweithredol Cynghrair Niwrolegol Cymru. Mae’r cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd, ond anfonir gwahoddiadau penodol at sefydliadau sy’n aelodau o Gynghrair Niwrolegol Cymru neu unigolion eraill sydd â diddordeb mewn cyflyrau niwrolegol y bydd y cadeirydd a’r ysgrifennydd yn dewis eu gwahodd yn benodol.
Ar hyn o bryd, yr aelodau yw:
Mark Isherwood AC (Cadeirydd)
John Griffiths AC
Elin Jones AC
Kirsty Williams AC
Keith Davies AC
Megan Evans - Cynghrair Niwrolegol Cymru (Ysgrifennydd)
Ana
Palazon - Y Gymdeithas Strôc (Cadeirydd
Cynghrair Niwrolegol Cymru)
Dave Maggs – Headway
Ann
Sivapatham - Gweithredu ar Epilepsi
Kevin Thomas - Cymdeithas Clefyd Motor Niwron
Urtha Felda - Cymdeithas MS Cymru
David Murray - Ymddiriedolaeth Cure Parkinson
Kate Steele - Shine Cymru
Barbara Locke - Clefyd Parkinson DU
Carol Smith - Cymdeithas Clefyd Motor Niwron
Lynne Hughes - Cymdeithas MS Cymru
Lobïwyr proffesiynol, sefydliadau gwirfoddol ac elusennau y mae’r Grŵp wedi cyfarfod â hwy yn ystod y flwyddyn flaenorol
Nid oedd yw’r grŵp wedi cwrdd ag unrhyw lobïwyr proffesiynol. Gellir cael manylion am fudiadau gwirfoddol ac elusennol sy’n dod i’r cyfarfodydd yn adran ‘Cyfarfodydd y grŵp’ o’r adroddiad.
Cyfarfodydd
Yn 2015, cyfarfu’r Grŵp Trawsbleidiol dair gwaith, Mawrth 2015, Mehefin 2015 a Medi 2015.
Mawrth 2015
Roedd cyfarfod cyntaf y flwyddyn yn canolbwyntio ar gydgynhyrchu a’i bwysigrwydd yn y Cynlluniau Cyflawni Niwrolegol. Agorwyd y cyfarfod gan David Murray sy’n un o dri chynrychiolydd o Gynghrair Niwrolegol Cymru ar Grŵp Gweithredu’r Cynllun Cyflawni Niwrolegol a bu’n trafod ei rôl fel cynrychiolydd cleifion.
Yna rhoddodd Ben Dineen o SPICE gyflwyniad ar egwyddorion ac arferion cydgynhyrchu. Mae cydgynhyrchu yn ddull system gyfan tuag at gomisiynu, cynllunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau a ddarperir, gyda phawb yn rhannu pŵer ac yn rhannu cyfrifoldeb. Darparodd hefyd enghreifftiau o gydgynhyrchu ar waith yng Nghymru.
Yn olaf, siaradodd yr Athro William Grey o’r Uned B.R.A.I.N., Prifysgol Caerdydd am gynnwys cleifion mewn gwaith ymchwil. Rhoddodd gyflwyniad am y gwaith a fydd yn cael ei gynnal yn yr uned B.R.A.I.N. Y nod yw i’r uned fod yn ganolfan ragoriaeth yng Nghymru a’r DU ar gyfer cyflwyno therapïau celloedd/cyffuriau/ffactorau twf newydd i gleifion â chlefydau niwrolegol a niwroddirywiol na ellir eu trin ar hyn o bryd.
Cofnodion cyfarfod 24 Mawrth 2015
Mehefin 2015
Yn 2012 cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymchwiliad undydd ar wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru. Diben yr ymchwiliad oedd ystyried i ba raddau y mae’r argymhellion a wnaed gan Adroddiad Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol y Trydydd Cynulliad ar Wasanaethau Cadeiriau Olwyn yng Nghymru (a gyhoeddwyd ym mis Mai 2010) wedi eu gweithredu. Cydnabu’r ymholiad fod cynnydd wedi’i wneud ers 2010 - yn enwedig o safbwynt rheoli a rheoli perfformiad mewnol ond nid oedd hyn o reidrwydd wedi arwain at welliannau o ran gwasanaethau ar gyfer defnyddwyr presennol / y dyfodol.
Roedd y cyfarfod hwn o’r Grŵp Trawsbleidiol wedi’i neilltuo i adolygu a yw’r gwelliannau bellach yn cael effaith ar ddefnyddwyr gwasanaeth. Clywodd y cyfarfod gan ddau ddefnyddiwr gwasanaeth a ddisgrifiodd broblemau gyda chynnal a chadw cadeiriau yn ogystal â materion o ran amnewid rhannau sydd wedi torri neu wedi treulio.
Cawsom wybod hefyd am strwythur a diben y Bwrdd Ystum Corff a Symudedd. Mae gweithgor technegol a gweithgor rhanddeiliaid ar gyfer monitro’r gwasanaethau hyn yn ofalus i sicrhau defnydd priodol o ganllawiau Llywodraeth Cymru. Mae’r grŵp rhanddeiliaid yn cynnwys lleisiau defnyddwyr gwasanaethau o bob rhan o Gymru.
Cofnodion cyfarfod 9 Mehefin 2015
Medi 2015
Yn y cyfarfod clywsom gan David Linden, Athro Niwrowyddoniaeth Drosiadol, Prifysgol Caerdydd, Seiciatrydd Ymgynghorol Anrhydeddus, Cadeirydd CVUHB, Y Gyfadran Niwroseiciatreg, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru a Dr Tanya Edmonds, Niwroseicolegydd Clinigol Ymgynghorol Arweiniol, Adran Niwroseicoleg, Ysbyty Treforys.
Cytunwyd bod asesiad cynnar yn hanfodol ond mae Cymru ar ei hôl hi yn y DU er bod costau hir dymor diffyg ymyriad yn enfawr. Yn gyffredinol, ychydig iawn o adnoddau sydd ar gyfer pobl â phroblemau niwroseicolegol yng Nghymru gan yr ystyrir yn aml nad ydynt yn briodol ar gyfer Timau Iechyd Meddwl lleol.
Cofnodion cyfarfod 22 Medi 2015
Datganiad Ariannol
Telir yr holl gostau gan Gynghrair Niwrolegol Cymru.
|
Llety ac arlwyo |
Treuliau |
Mawrth 2015 |
£55.80 |
£328.25 |
Mehefin 2015 |
£79.80 |
£0.00 |
Medi 2015 |
£68.28 |
£0.00 |
Cyfanswm |
£203.88 |
£328.25 |
|
|
|
Cyfanswm y cyfan |
£532.13 |